Ymunwch â ni ym Mharth Prom Live ar gyfer y dalent orau yn y dref

Mae gennym lawer o wobrau i’w rhoi allan, gan gynnwys tocynnau Cineworld, bandiau garddwrn VIP ar gyfer Parth Knightley’s Funfair a hyd yn oed tocynnau i weld Lionel Richie yn Stadiwm Eirias ar ddydd Sul 19 Mehefin, felly peidiwch â cholli allan!

Galwch i mewn i’n Bwth Lluniau a chael gweld rhai o’r digwyddiadau gorau sydd gan Gonwy i’w cynnig yn 2016. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â’r rhai bach gyda chi gan ein bod yn disgwyl ymweliad gan Paw Patrol ac yn cynnig paentio wynebau am ddim hefyd.

DJ Mark Wright bellach yw un o hoff bersonoliaethau cyfryngau’r DU gyda’i sioe radio ei hun ar Heart FM ac mae’n gyd gyflwynydd o Take Me Out, The Gossip. Bydd Mark yn fyw ar y llwyfan gyda Set DJ awr o hyd am 7pm i ddod â’r diwrnod i ben.